Gofod Gwych
Byth ers i ni lansio ein set gyntaf o adnoddau Blynyddoedd Cynnar ychydig flynyddoedd yn ôl, maent yn parhau i fod yn hynod boblogaidd gydag athrawon ledled y DU. Nod yr adnoddau hyn yw datblygu medrau meddwl cyfrifiadurol a datrys problemau disgyblion iau mewn cyd-destunau sy’n gyfarwydd i leoliad Blynyddoedd Cynnar.
Mae’r set ddiweddaraf hon yn defnyddio’r thema gofod i gyflwyno 3 gweithgaredd wedi’u cynllunio i gael disgyblion i ddatrys problemau gan ddefnyddio meddwl cyfrifiannol a chydweithio. Bydd y disgyblion yn creu algorithm i dywys roced drwy'r gofod, yn gweld patrymau mewn estroniaid ac yn tincer gyda ffyrdd o adeiladu roced!
Cliciwch ar y ddolen yn y deilsen isod i lawrlwytho’r 3 gweithgaredd am ddim, a chysylltwch â ni ar ein sianeli cymdeithasol pan fyddwch yn eu defnyddio gyda’ch disgyblion. Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld ein hadnoddau Troednoeth ar waith!
Cliciwch ar y teils isod i ddysgu mwy ac i lwytho’r gwersi i lawr.