Mae plant yn cael eu geni'n barod ac yn awyddus i ddysgu ac maen nhw'n mwynhau rhyngweithio ag eraill o'u cwmpas. Mae'n hanfodol darparu'r cyfleoedd i ryngweithio'n gadarnhaol mewn amgylchedd sy'n cefnogi eu dysgu.

Erbyn i blant gyrraedd ein lleoliadau Blynyddoedd Cynnar efallai eu bod eisoes wedi profi dysgu gweithredol, wedi bod yn rhan o ddyfalbarhau ac wedi mwynhau cyrraedd nod. Maen nhw wedi ffurfio eu syniadau eu hunain, wedi mwynhau archwilio, gwneud pethau a chwarae gyda gwrthrychau cyfarwydd.

Trwy ein gweithgareddau a'n hadnoddau Barefoot, ein nod yw datblygu gweithgareddau dysgu wedi’i graddoli i gefnogi athrawon Blynyddoedd Cynnar a fydd yn caniatáu i blant barhau â'u taith ddysgu. Mae lleoliadau Blynyddoedd Cynnar eisoes yn darparu rhyngweithio o ansawdd uchel gydag athrawon a chyfoedion eraill, sy'n caniatáu i blant feistroli sgiliau allweddol ac ysgogi dysgu o ganlyniad i hynny.

Trwy nodi a datblygu'r dulliau meddwl cyfrifiadurol o ddysgu fel piltran, creu a dadfygio gallwn helpu plant i feistroli sgiliau fel dyfalbarhau a gweithio gydag eraill.

Mae gweithgareddau Blynyddoedd Cynnar Barefoot yn adeiladu ar arfer da cyfredol o hybu dysgu ar sail chwarae. Rydyn ni eisiau hyrwyddo dysgu effeithiol yn yr ystafell ddosbarth lle gall plant chwarae, archwilio a dysgu'n weithredol, i gael cyfle i greu a meddwl yn feirniadol am her maen nhw'n ei hwynebu ac felly i barhau i fod yn ddysgwr llawn cymhelliant.