We use cookies on this website to enhance your experience. For more information, visit our cookie policy.
X
We haven't seen you in the last 19 minutes, so we will log you out of your Barefoot account in the next few seconds unless you click Stay logged in below.
Tameidiau bach hwyliog o ddysgu, Tameidiau mawr o ysbrydoliaeth! Gweithgareddau cydweithredol Cyflym
Yma, mae amrywiaeth arbennig o weithgareddau y gallwch eu cynnal rhwng gwersi i gadw diddordeb eich disgyblion a thanio eu brwdfrydedd dros ddysgu eto. Mae’r Tasgau Tamaid hyn wedi’u dylunio i ddysgu disgyblion am y sgiliau datrys problemau sydd eu hangen arnynt, fel algorithmau, dadelfennu a phatrymau, gan roi hwb i’w hyder a dod â rhywfaint o hwyl yn ôl i'r ystafell ddosbarth.
Set o wyth gweithgaredd cydweithio cyflym ar gyfer plant 5 – 7 oed, sy’n eu hannog i feddwl yn gyfrifiadurol heb fod angen technoleg. I’w defnyddio yn y dosbarth ac at ddibenion dysgu hyblyg gartref.
Lawrlwythwch algorithm golchi dwylo Barefoot a llunio’ch algorithm eich hun; creu cymeriad campus mewn grŵp; dadelfennu dawns ddathlu i lawr i gamau manwl; neu greu, gwerthuso a gwella’ch cerddoriaeth eich hun gan ddefnyddio offerynnau rydych chi wedi’u creu.
Set o wyth gweithgaredd cydweithio cyflym ar gyfer plant 7-9 oed, sy’n eu hannog i feddwl yn gyfrifiadurol heb fod angen technoleg. I’w defnyddio yn y dosbarth ac at ddibenion dysgu hyblyg gartref.
Ewch ati i greu coeden werthfawrogi fel dosbarth a chwilio am batrymau a thebygrwydd; dyfeisio gêm newydd ac ysgrifennu algorithm er mwyn galluogi pobl eraill i'w chwarae a’i phrofi; neu gysylltu â’ch ffrindiau i greu baner i’r dosbarth gan ddadelfennu a chrynhoi gwybodaeth wrth fynd.
Set o wyth gweithgaredd cydweithio cyflym ar gyfer plant 9-11 oed, sy’n eu hannog i feddwl yn gyfrifiadurol heb fod angen technoleg. I’w defnyddio yn y dosbarth ac at ddibenion dysgu hyblyg gartref.
Defnyddiwch eich rhesymeg i ganfod ‘Pwy wnaeth?’; gwerthuso beth yw’r ffordd orau o drosglwyddo neges ar draws y dosbarth heb ei ysgrifennu ar bapur; neu ddefnyddio’ch sgiliau artistig i ddylunio patrymau ar gyfer gardd enfys mewn grŵp.
Mae ein poster, y mae modd ei lawrlwytho, yn annog myfyrwyr i olchi eu dwylo wrth iddynt ddysgu am algorithmau. Gallwch argraffu un i’ch dosbarth ei roi uwchben yn sinc neu ar ddrws y toiledau.
Ydych chi'n adnabod athro a fyddai wrth ei fodd â'r gweithgareddau hwyliog, gafaelgar a chydweithredol hyn? Rhannwch y dudalen hon gyda nhw am yr holl ysbrydoliaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddechrau.