Pam Troi at Barefoot
Wedi’i greu gan athrawon ar gyfer athrawon, mae eich anghenion wrth galon adnoddau Barefoot, gyda ffocws ar feithrin eich hyder, eich gwybodaeth a’ch sgiliau.
Mae cynnwys syml, hawdd a hygyrch yn disgwyl i ysbrydoli eich dosbarth i ddysgu, meddwl a ffynnu mewn byd digidol.
Rydym yn hynod falch o ddweud bod 95% o athrawon Barefoot yn dweud bod ein gweithdai datblygiad proffesiynol wedi gwella eu hyder a’u gallu yn yr ystafell ddosbarth. Rydym yn gobeithio mai chi fydd y nesaf i ymuno â theulu Barefoot.
Caiff eich gweithdai datblygiad proffesiynol eu cyflwyno gan ein gwirfoddolwyr a’u trefnu ar amser sy’n gyfleus i chi, ar draws y Deyrnas Unedig, fel bod mynd â'r adnoddau yn syth i’r ystafell ddosbarth mor hawdd a di-straen â phosibl.
Yn cael eu cyflwyno ichi gan BT, mewn partneriaeth â CAS, mae adnoddau a gweithdai Barefoot ar gael yn rhad ac am ddim ar draws y Deyrnas Unedig.