Croeso i’n hadnoddau Cyber Smart ar y cyd â’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Yma fe welwch gynlluniau gwersi a gweithgareddau sy’n addas ar gyfer plant 6 – 7, 7-9 a 9 – 11 oed. O berchenogaeth a chaniatâd i’r gyfraith a diogelu cyfrineiriau – mae’r adnoddau rhyngweithiol a diddorol hyn yn siŵr o sicrhau bod eich disgyblion un cam ar y
blaen ar-lein.

Adnoddau Dysgu Gartref

Yn cyflwyno’r adnoddau Be Cyber Smart...

Pam ei bod yn bwysig addysgu disgyblion cynradd i gymryd gofal ar y we? Sut gall adnoddau newydd Barefoot helpu a beth fyddant yn ei gynnwys? Dewch i ddarganfod popeth y mae angen i chi ei wybod yma gyda Dr Chips!

card_img

Adnoddau

Pwy sy’n berchen ar hwn

Oedran: 6-7 oed

Cysylltiadau â’r cwricwlwm
PHSE, Llythrennedd digidol

Gan ganolbwyntio ar berchnogaeth a’r defnydd o wrthrychau bob dydd, mae’r wers hon yn helpu plant i ddeall perchnogaeth a chaniatâd, sy’n sail i’r defnydd moesegol o gyfrifiaduron.


Gwneud y peth cywir

Oedran: 6-7 oed

Cysylltiadau â’r cwricwlwm:
PHSE, Llythrennedd digidol

EYmestyn yr archwiliad o berchnogaeth i gyd-destunau digidol. Yn y wers hon, bydd y disgyblion yn ymateb i gardiau storïau sy’n cyflwyno sefyllfaoedd ar berchnogaeth ddigidol.


Chi yw’r rheithgor

Oedran: 7-9 oed

Cysyniadau a Dulliau:
Echdynnu, Dadelfennu, Algorithmau a Thincian

Cysylltiadau â’r cwricwlwm:
PHSE, Llythrennedd digidol

Mae trawsnewid y dosbarth yn ystafell llys yn helpu disgyblion i archwilio’r gyfraith a chanlyniadau seiberdroseddu. Defnyddir dulliau chwarae rôl a sefyllfaoedd er mwyn rhoi bywyd i’r pwnc amserol hwn. Mae gwersi estynedig yn cael eu cynnwys i helpu i arddangos y dysgu a rhannu gwybodaeth gydag eraill.


Chi yw’r arbenigwr ar seiberddiogelwch

Oedran: 9-11 oed

Cysyniadau a Dulliau:
Echdynnu, Dadelfennu, Algorithmau a Thincian

Cysylltiadau â’r cwricwlwm:
PHSE, Llythrennedd digidol

Mae trawsnewid y dosbarth yn ystafell llys yn helpu disgyblion i archwilio’r gyfraith a chanlyniadau seiberdroseddu. Defnyddir dulliau chwarae rôl a sefyllfaoedd er mwyn rhoi bywyd i’r pwnc amserol hwn. Mae gwersi estynedig yn cael eu cynnwys i helpu i arddangos y dysgu a rhannu gwybodaeth gydag eraill.


Gêm Y Phisherman

Oedran: 8-11 oed

Cysylltiadau â’r cwricwlwm:
PHSE, Llythrennedd digidol

Gan ddefnyddio gêm Y Phisherman bydd y plant yn archwilio pentref o dan y dŵr, maent yn dysgu sut i adnabod arwyddion gwe-rwydo (phishing) ac yn helpu’r trigolion i fod yn ddiogel wrth i’r Phisherman ymosod arnynt. Bydd amser i drafod ac adlewyrchu gydag arweiniad yr athro/athrawes.


 

Mae'n dda ei rannu!